Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Tachwedd 2019
Amser:
09.31 -
10.51
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5777
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Alun Davies AC Mike Hedges AC Nick Ramsay AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Laura Fox, Llywodraeth Cymru Andrew Hewitt, Llywodraeth Cymru Gareth McMahon, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Samantha Williams (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC.
2.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio technegol gyda Gareth McMahon, Cyfreithiwr y Llywodraeth; Andrew Hewitt, Trysorlys Cymru; a Laura Fox, Trysorlys Cymru ar newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth trethi Cymru.
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gynnwys yr adroddiad drafft.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dull diwygiedig o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 a chytunodd ar y dull gweithredu.
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur ar y dull o graffu ar ddeddfwriaeth sydd ar ddod.
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried drafft diwygiedig ar 27 Tachwedd 2019.